DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (Ymadael â'r UE) 2019

DYDDIAD

20 Mehefin 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (Ymadael â'r UE) 2019

 

Trosolwg o Bolisi'r OS

Mae’r rheoliadau Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn ymwneud yn bennaf â hwyluso a hybu cydweithredu trawsffiniol, trawswladol a rhyngranbarthol, gyda'r nod o gryfhau cydlyniant economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol yr Undeb. Gellir cefnogi Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a/neu Gronfa Gymdeithasol Ewrop. 

 

Bydd yr OS hwn yn dirymu Rheoliad (EC) Rhif 1082/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd a Rheoliad (EU) Rhif 1302/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor o 17 Rhagfyr 2013 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1082/2006 ar Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd a bydd yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau cyhoeddus datganoledig Cymreig, ymgeisio a dod yn aelodau o Grwpiau Cydweithredol Tiriogaethol Ewropeaidd fel aelodau trydydd gwledydd, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol. 

 

Cyfraith [yr UE a ddargedwir] sy'n cael ei diwygio

·           Rheoliad (EC) Rhif 1082/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, fel y mae’n gymwys yn y Deyrnas Unedig

·           Rheoliad (EU) Rhif 1302/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor o 17 Rhagfyr 2013 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1082/2006 ar Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd mewn perthynas ag egluro, symleiddio a gwella sefydliad a gweithrediad grwpiau o'r fath, fel y mae'n gymwys i'r Deyrnas Unedig

·           Rheoliadau Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd 2007(a) O.S. 2007/1949, Rhannau 2 a 3 o'r Atodlen

·           Gorchymyn Deddf Cwmnïau 2006 (Diwygiadau Canlyniadol etc.) 2008(b) O.S. 2008/948, Paragraff 36 o Atodlen 1

·           Rheoliadau Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd 2015 O.S. 2015/1493

·           Rheolau Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Arbedion) 2017 O.S. 2017/369, y cofnod olaf yn y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2

·           Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) ac Ansolfedd (Yr Alban) (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) 2017(c) O.S. 2017/1115, Rheoliadau 31 a 32

 

Diben y diwygiadau

Diben y diwygiad yw cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â chymryd rhan mewn Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.

 

Mae Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn endidau cyfreithiol, wedi'u cynllunio i hwyluso a hybu cydweithrediad trawsffiniol, trawswladol a rhyngranbarthol, ac maent yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus gymryd rhan mewn gweithgareddau cydweithredu fel aelodau o Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.

 

Os bydd y DU yn ymadael â'r UE, ni fydd y DU yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cydweithredu fel aelod-wladwriaeth mwyach. Bydd y diwygiadau yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus y DU ddod yn aelodau o Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd fel aelodau trydydd gwledydd. 

 

Os bydd awdurdod datganoledig Cymreig yn ymgeisio i ymuno â Grŵp Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, mae'r OS yn cynnwys darpariaeth sy'n atal yr Ysgrifennydd Gwladol rhag cymeradwyo neu wrthod cais heb geisio cytundeb Gweinidogion Cymru.

 

Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith pob un o'r diwygiadau i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/LFb9foWn

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Bydd yr OS yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gael cytundeb Gweinidogion Cymru i gymeradwyo neu wrthod cais os bydd awdurdod datganoledig Cymreig yn ymgeisio i gymryd rhan mewn Grŵp Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Nid oes unrhyw effaith ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'r OS yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Nid oes gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y polisi ar gyfer y cywiriad. O ganlyniad, byddai gwneud OS ar wahân yng Nghymru ac yn Lloegr yn arwain at ddyblygu, a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. Mae cydsynio i OS ar draws y DU yn sicrhau bod un fframwaith deddfwriaethol ar draws y DU sy'n hybu eglurder a hygyrchedd yn ystod y cyfnod hwn o newid. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn.